Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mai 2017
Amser: 09.30 -
10.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4132
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Tystion: |
Alexandra Runswick, Unlock Democracy Professor David Miller, Spinwatch |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rowlands AC.
1.3 Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan.
1.4 Cydymdeimlodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, â theuluoedd y rhai a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad ym Manceinion ar 22 Mai.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alexandra Runswick, Cyfarwyddwr Unlock Democracy a'r Athro David Miller, Cyfarwyddwr Spinwatch, ynghylch yr ymchwiliad i lobïo.
2.1 Cytunodd Alexandra Runswick i anfon copi o'r ymarfer mapio a wnaed ar gofrestrau gwirfoddol sydd ar waith ar hyn o bryd.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.